Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 27, 2010

Tân ar y Mynydd


Mae’r tanau gwair a choedwig yn dal i glirio/difrodi tir agored Asturias. Heddiw mae’r cyngor lleol wedi cyhoeddi ei fod am weithredu adran o ddeddf sydd mewn bod yn barod fydd yn gwahardd pori tiroedd a losgwyd am flwyddyn.
maen nhw’n dweud eu bod nhw am adael digon o amser i’r tir a’r tyfiant ddod ato i’i hun, ond mae ffermwyr yn amau taw ffordd o’u cosbi nhw am ddechrau tân a cholli rheolaeth arno yw hwn.
Heddiw welson ni hofrennydd arall yn y mynyddoedd ar yr arfordir, yn ogystal ag un lan yn y Picos ei hun, o fewn y parc cenedlaethol. Mae’r tywydd mor sych, mae llwybrau mwdlyd yn hawdd eu cerdded a’r tyrchod yn gorfod chwilio’n galed am rywle gwlyb i gysgu ganol dydd.
Ar yr un pryd, yn Ne Sbaen, maen nhw’n cael stormydd o law.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: