Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 5, 2010

Ffarwel i Asturias (dros dro)

Mae’r ymwelwyr i gyd wedi mynd, mae’r haul yn disgleirio a’r môr yn dawel. Ond yn anffodus ŷn ni’n gorfod ymadael hefyd, yn ôl i Gymru a llefydd eraill ar ynys Prydain Fawr i weld aelodau o’r teulu ac i roi trefn ar gwpwl o bethau.
Heno fe fyddwn yn cysgu ar y môr, ar y fferi o Santander i Portsmouth; galla’i ond gobeithio y bydd y tywydd yn aros yn fwyn. Tro diwethaf, roedd y storm cynddrwg wnaeth y llong ddim hwylio tan i diwrnod wedyn.
Bydda’i’n dal i flogio am Asturias yn ystod y daith: yn cadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd ac yn cael cyfle i ymdrin â themâu tymor hir.
Nodyn i orffen i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y farchnad tai: mae’r nifer o dai a werthwyd yn Asturias wedi codi am y tro cyntaf ers 2008. Mae e nawr yn hanner yr hyn oedd e. Ac mae prisiau yn dal i fod 15% yn is.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: