Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 12, 2010

Ceisio Ail Farn

Diddorol gweld heddiw yn un o bapurau Asturias cyfweliad â meddyg sy’n gweithio yn ysbyty Glan Clwyd. Arbenigwr canser y frest a’r ysgyfaint yw Angel García Alonso, ac yn frodor o Laviana yn y cymoedd glofaol.
Mae e wedi gweithio yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru, a weithiau dyw e ddim yn amlwg am ba wlad mae’n siarad. ond:

Mae’n canmol y gwario mawr sydd wedi bod yn ddiweddar, yn dweud bod pethau wedi gwella ers 1997 pan ddechreuodd weithio yn Lloegr, ond yn poeni am y fiwrocratiaeth ‘exagerado’, h.y. ormodol.
Mae’n pwyntio mâs bod meddygon Prydain fel y cyfryw yn ennill ddwywaith gymaint â rhai Sbaen, ond yn dweud bod mwy o gyfrifoldeb arnyn nhw y tu hwnt i drin cleifion.
Mae’n cefnogi’r gyfundrefn o benderfynu ar raddfa ‘genedlaethol’ pa foddion newydd y dylid eu defnyddio – ond yn dweud hefyd ei fod yn bosib cael moddion sydd heb eu cymeradwyo os yw’n meddwl y bydden nhw o ddefnydd i glaf. Dywed bod hyn yn cael ei wneud fel rhan o gynllun ymchwil i effaith y moddion.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: