Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 29, 2010

Pobl – a Physgotwyr

Nodiadau bach ar gwpwl o bethe sydd wedi ymddangos mewn cofnodion eisoes.

Mae poblogaeth Asturias yn dal i ddisgyn. Heddiw y cyhoeddwyd y ffigyrau cyntaf o’r arolwg diweddaraf, sy’n dangos bod 1200 yn llai o bobl yn byw yma, h.y. rhyw 1,180,000 i gyd. Mae poblogaeth Sbaen gyfan, ar y llaw arall, wedi codi o 200,000 dros y flwyddyn ddiwethaf i bron i 47 miliwn. Gellid cymharu’r ystadegau yma â’r perthynas rhwng poblogaeth Cymru a’r DU: 3 miliwn yn erbyn 61 miliwn – un o bob ugain fwy neu lai. Un o bob deugain o drigolion Sbaen sy’n byw yn Asturias.
Ac mae pysgotwyr y dalaith yn aros yn barod i redeg at lan yr afon y bore fory pan fydd y tymor pysgota ‘go iawn’ yn dechrau – h.y. y byddan nhw’n gallu ladd eu heogiaid a mynd a nhw adref i’r gegin. Neu’n fwy na thebyg eu gwerthu nhw am bris uchel i dŷ bwyta.
Fe fydd yn ddiddorol gweld a yw’r chwech wythnos o ‘pesca sin muerte’ – dala’r pysgod ac yna’u dychwelyd i’r afon fel bod nhw’n gallu gorffen eu taith a chenhedlu rhai bach ar gyfer y blynyddoedd i ddod – wedi gweithio. Ond chawn ni ddim wybod hynny am flynydde eto.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: