Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 24, 2010

Coriscao, o’r Diwedd

Aethom ni ar y daith yma gyda grŵp mynydda Mofrechu, o Ribadesella. Rhyw bymtheg ohonom ni i gyd mewn bws am dair awr i gyrraedd Puerto San Glorio, yn y Cordillera Cantabrica rhwng Cantabria a Leon.Ac o’r fan honno tua’r de-orllewin i gyfeiriad Coriscao, sydd dros 2,200m – tua dwywaith gymaint â’r Wyddfa.

Rhyw 600m o ddringo oedd gyda ni, yn ddigon hawdd i ddechrau, gydag ambell lecyn o eira, ond wedyn y 200m hyd at y copa yn serth ofnadwy. A dim ond gwair pigog i afael ynddo.
O’r copa roedd yr olygfa tua’r gogledd yn anghredadwy – y Picos de Europa  o’r ochr draw.

Roedd hyd yn oed y ci – mastin, y math o gi sy’n gwarchod da byw ar y mynyddoedd – i weld yn cytuno.
Ond bobol bach roedd hi’n dwym. Ac roedd mynd i lawr yr ochr arall – 1400m ohono – yn waeth na’r dringo.

Er ein bod ni wedi aros i gael bwyd mewn dôl fach bert lle roedd yr eira’n dadmer o flaen ein llygaid, erbyn inni gyrraedd y gwaelod, a’r bws, a’r bar, roedd ein coesau ni gyd yn gwingo. A mae’n rhai i yn dal i wneud. Yfory: y blodau a welsom ar y daith yma.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: