Lle heddiw i ddau flodyn bach hyfryd arall a welson ni ar y daith gerdded heibio mwynglawdd Andara yn y Picos.
Un o’r lluosog fathau o lin y llyffant yw hwn – linaria pyrenaica. Mae’r enw fel arfer yn awgrymu taw ym mynyddoedd y Pirineos y cafodd ei ddisgrifio gyntaf, ond mae i gael ar hyd mynyddoedd gogledd Sbaen.
A mae’r rhain yn eithaf anarferol: linaria filicaulis, os ydyn ni wedi dilyn y llyfr yn iawn, ‘mosquitas cantábricas´ yn Sbaeneg. Roedd y planhigyn – dim ond o ryw 10cm o daldra – yn tyfu ar riw o sgri yn agos iawn i’r hen bwll sinc.
Y tro nesaf gobeithio cawn ni gyfle i fynd ymhellach heibio’r pwll lle yn ôl y sôn mae ‘na flodau prinnach eto.
Gadael Ymateb