Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 6, 2010

Cynhaeaf Euraidd

Fel hyn mae rhywun yn dysgu ffermio. Roeddwn i wedi sylwi bod smotiau bach brown golau ar rai o’r lemwns ar y coed, a bod eraill â marciau mwy, du. Rhyw feddwl taw’r gwynt oedd yn gwneud y difrod wrth chwythu’r ffrwyth yn erbyn y canghennau, neu adar yn chwilio am ddŵr. Ond na. Pydredd yw e, yn rhan o broses aeddfedu naturiol y lemwn. Mae’r rhan fwyaf ddigon o bob ffrwyth yn iawn, achos mae’n cymryd amser i bydru ty fewn oherwydd trwch y croen. Ond er mwyn cadw – wel mae hynny’n rhywbeth arall. Felly es i rownd y bore ‘ma a tynnu pob lemwn oedd yn felyn.

A dyma nhw – 18 kilo o lemwns, rhai’n berffaith ond y rhan fwyaf â rhyw nam bach. Mae’r ffrwyth yn cymryd dros flwyddyn i ddod yn barod i’w fwyta; ar hyn o bryd mae digonedd o ffrwyth sy’n dal yn wyrdd ar y coed:

a hyd yn oed rhai bychain sydd wrthi’n cael eu ffurfio wrth i flodyn golli’i betalau. Fyddwn ni ddim yn casglu rhain tan 2012.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: