Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 8, 2010

O’r Gegin – a’r Bowlen yn Wag

Dau fath o fwyd na fyddwn ni ddim yn eu blasu eleni: olew cnau Ffrengig cartref, a brennig neu limpets. Efallai bod rhai ohonoch chi wedi darllen y sylw gan Gareth ar y cofnod am fwyta brennig. Yn dyfynnu o lyfr Edible Seashore fe ddwedodd eu bod nhw â blas fel ‘pencil rubbers dipped in fish paste’ . Yn ffodus neu beidio, mae tymor y brennig yma wedi mynd heibio heb imi gael cyfle i geisio’u cael nhw oddi ar y creigiau, heb sôn am eu coginio.
Fe wnes i drio eto gyda’r olew. Y tro yma, yn dilyn disgrifiad arall, malu’r cnau yn fân cyn eu tostio, wedi yn syth â nhw i’r wasg yn dwym. Dim newid. Dim dropyn o olew. (Falle fyddai BP yn hapus, ond dydw i ddim).

Beth sy’n bod? Coed o fath gwahanol – go brin. Y cnau ddim yn cynhyrchu cymaint o olew oherwydd y tywydd/lleoliad glan môr? Efallai. Rhywbeth ar goll o’r broses? Sa’i’n credu. Eisiau mwy o bwysau ar y wasg? Bosib iawn. Y peth nesaf fydd trefnu i fynd i Ffrainc i ymweld â rhywun sy’n dal i gynhyrchu olew cartref.
Tan hynny, mwy o fisgedi cnau fydd hi.

Advertisements

Responses

  1. Trueni am y brennig! Rhywbeth i edrych ymlaen ato flwyddyn nesa, falle…


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: