Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 14, 2010

Ydych chi wedi Lladd eto?

Rwy’n cofio clywed y cwestiwn yna pan own i’n ferch fach, un ffermwr yn siarad â’i gymydog mewn gwerthiant da byw. Nid pob un oedd yn berchen tractor, ond roedden nhw i gyd yn cael defnydd un ym mis Mehefin ar gyfer lladd gwair. Byddai pobl yn mynd o un fferm i’r llall i helpu.
Dim ond dau hen frawd, a dim ond un cae gwair oedd gyda nhw, yr wyf i’n eu cofio yn lladd â phladur, a chodi’r gwair ar racane bach i’w sychu.
Mae cenhedlaeth y pladurwyr bron wedi mynd yn Asturias hefyd. Rai boreau mae’n bosib clywed eto sŵn rheolaidd y miniogi, ac wedyn y torri, ac yna’r miniogi eto, o gwmpas y tai gyferbyn. A’r diwrnod o’r blaen des i ar draws dyn ifancach o ddigon na’n cymydog ni yn un o’r caeau ar gyrion y pentref.

Iawn, dim ond dechrau clirio’r ochrau mae fe i’r tractor cael dod i mewn i’r cae, ond roedd e’n gweithio’n ddigon destlus.  Rhaid cofio bod yr hen fois yn gweithio mewn rhes o 4 neu 5 ar draws y cae – a does dim digon o bobl ar ôl yn yr ardaloedd gwledig i wneud hynny nawr.

Ie, y tractor coch pia hi – gydag un dyn yn gwneud sawl cae cyn cinio, ac un arall yn dod ddeuddydd wedyn i wneud y bêls mawr crwn a’u lapio nhw mewn plastig du.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: