Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 21, 2010

Cylchdaith Andara – Blodyn Ecstra

O’r diwedd mae’n cyfaill y botanegydd wedi canfod enw iawn y planhigyn anhysbys a welsom wrth grwydro hen lwybr y mwynwyr yn ardal dwyreiniol y Picos de Europa. Ac un digon anghyffredin a diddorol yw e hefyd.

                                                  Soldanella alpina ssp cantabrica
Mae hwn yn blanhigyn sydd wedi arbenigo i’r eithaf. Mae’n tyfu ar lethrau ucha’r mymyddoedd, tua’r 2000m medr, ar yr ochr ogleddol lle mae’r eira yn aros yn lluwchfeydd am 9 neu 10 mis o’r flwyddyn. Ac oherwydd y cyfnod byr iawn sydd gydag e i flodeuo a dod â hadau, mae’n dechrau yn yr hydref. Mae’r blagur yn ffurfio cyn eira cynta’r gaeaf, ac yn aros yno o dan eu carthen wen nes bydd yr haul yn cyrraedd eto, tua’r mis Mai canlynol. Wrth i’r dadmer ddechrau, maen nhw’n agor, tra bydd y dail yn dal o dan yr eira. Mae na fideo o’r broses gan y BBC yn fan hyn: soldanella alpina yn agor
Yn amlwg roedd yr eira wedi diflannu o’r llecyn lle welson ni’r rhain, ond roedd digon ar ôl, petasen ni ond yn gwybod byddem ni wedi mynd i chwilio am ragor. O wel, flwyddyn nesaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: