Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 22, 2010

Pigion – Pel-droed a’r Picos

Nifer o bennau tost y bore ma ar ôl i Sbaen o’r diwedd chwarae fel pencampwyr Ewrop yn Ne Affrica. Wel na, ddim cweit, ond o leiaf wnaethon nhw ennill ac fe sgoriodd David Villa – Asturiano! – y 2 gôl. Trueni am y 2 neu 3 a fethodd. Neb yn hyderus iawn ynglŷn â gêm Chile.
Mae ffermwyr sy’n gadael eu gwartheg i bori ar y mynydd yn ardal Covadonga a’r Llynnoedd yn cwyno ar ôl yr ymosodiad diweddaraf gan fleiddiaid. Maen nhw’n dweud eu bod wedi gweld 4 blaidd yn y cyffiniau, 2 oedolyn a 2 o genawon, a bod 10 llo wedi eu lladd. Mae’r sefyllfa yn gymhleth oherwydd bod yr ardal o fewn Parc y Picos, lle mae’r blaidd yn cael ei warchod – ond ar y llaw arall mae’r awdurdodau o bryd i’w gilydd yn danfon saethwyr mâs i ladd yr anifeiliaid pan fydd nifer o dda byw wedi’u lladd neu’u niweidio. Hefyd wrth gwrs mae’r ffermwyr yn derbyn iawndal.

Ac yn ardal Bulnes mae’r chwilio am y cerddwr colledig yn parhau, wythnos ar ôl iddo ddiflannu, gyda deifwyr yn plymio i’r pyllau dyfnaf. Mae dyn arall – oedd ar goll yn yr un ardal – wedi troi lan yn ddiogel.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: