Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 30, 2010

Tywydd ar y Mynydd

Mae mynyddoedd serth y Picos de Europa wedi dod yn labordy ar gyfer astudio newidiadau yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr o brifysgol Uvieu/Oviedo yn awr yn edrych ar ganlyniadau o orsafoedd tywydd y Picos o 1957 ymlaen, yn ogystal â lluniau lloeren o’r deg mlynedd diwethaf, i gymharu tyfiant coed a gwair ar lefel hanesyddol. Y cyfan y maen nhw’n barodd i ddweud ar y funud yw bod coed mewn rhai llefydd yn tyfu’n uwch i fyny yn awr nag oedden nhw. Ond mae’n ddigon posib bod a wnelo hynny mwy â lleihad yn nifer y da byw sy’n pori ar y mynydd drwy’r haf.

Byddan nhw wedyn yn gwneud astudiaeth fanwl o’r mathau o dyfiant, pryfed ac adar sydd i’w canfod yn y Picos, y dyddiad maen nhw’n cyrraedd a’r uchder lle maen nhw’n byw.  Gwaith tymor hir yw hwn: men nhw wedi dewis chwech darn o dir lle maen nhw’n mynd i restru pob planhigyn sydd i’w gael yno eleni, a dod yn ôl bob 4 blynedd i wneud arolwg arall. Mae’n bosib y bydd mwy o blanhigion ‘Canoldir’ yn ymddangos – ac mae’n bosib y bydd rhai o’r blodau Alpaidd yn diflannu’n gyfangwbl.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: