Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 18, 2010

Moddion y Môr

Resaca yw’r gair Sbaeneg amdano. Ond roeddwn i wedi dweud neithiwr, ar ôl sawl culín o seidr, y byddwn yn mynd i nofio amser y penllanw y bore ma – am 11.00.
Rywsut fe lwyddais i ddihuno am 10 o’r gloch, wedi bod yn dawnsio yn strydoedd (wel, stryd) Llames tan o leiaf 3am. Yn wyrthiol, fe godais, ces i hyd i bopeth oedd eisiau i fynd i’r traeth, a bant â fi. Wel, am yr union beth i wella resaca. Roedd yr haul yn disgleirio, y môr wedi tawelu, y penllanw ychydig yn is na ddoe, a neb yno ond cwpwl a’u babi – yntau hefyd yn dawel. Es i fewn yn syth a bûm yn nofio am ryw 20 munud nes i lawer mwy o bobol ddechrau cyrraedd. Yn  gwneud llawer mwy o sŵn. Ond roedd y feddyginiaeth wedi gwneud ei gwaith ac roedd hi’n amser mynd adref, i wasgu orennau ar gyfer brecwast.
A dyna fe. Gweddill y dydd: dim byd. Eistedd ar y teras yn darllen ac yn gwylio pili-palas. Tipyn (bach) o chwynnu. Rhy dwym i fynd am dro.
Yn awr gyda’r gwres yn lleihau, dyfrio’r planhigion o gwmpas y tý a meddwl am ginio. Diwrnod perffaith.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: