Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 19, 2010

Os na Ddaw Olew, Gwna Fisgedi

Rysait sydd gyda fi heddiw i orffen gyda’r holl gnau Ffrengig oedd ar ôl wedi’r ymgais i wneud olew. Wnes i gadw nhw yn y rhewgell am fis ac roedden nhw’n iawn. Roedden nhw eisoes wedi cael eu malu (nid yn llwch, ond yn ddarnau mân) ac wedi’u tostio yn y ffwrn.
 I bob

100 g o gnau Ffrengig mae angen

225g o gan (blawd cyffredin – neu hanner a hanner gydag un cyflawn)
hanner llwy de o bowdwr codi
100g o siwgr caster
100g o ffrwythau sych – bricyll wedi’u torri’n ddarnau, llysi duon bach, cyrens
2 ŵy wedi’u curo

Ffwrn yn 190/nwy 5.

Cymysgu’r pethau sych i gyd mewn powlen fawr. Ychwanegu’r wyau a thylino’r cyfan nes cael toes. Ffurfio 2 rôl tua 25cm o hyd a’u dodi yn y ffwrn am hanner awr.
Tynnu nw o’r ffwrn, gadael iddyn nhw aros nes dy fod yn gallu cyffwrdd ynddyn nhw. Torri pob rhôl yn sgleisiau tua 1cm o ddyfnder a’u dodi nhw nôl yn y ffwrn am ryw 5 munud.
Maen nhw’n debyg i cantuccini’r Eidal, yn dda iawn gyda hufen iâ neu lased o win melys.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: