Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 26, 2010

Diwedd y Dirgelwch

Oes unrhyw un yn cofio’r lun yma o un o’m cofnodion ym mis Mawrth? Gofyn yr oeddwn beth oedd y goeden, a nawr o’r diwedd wedi cael gwybod. Cymydog yn ei alw’n ‘siempreverde‘ ond mae hwnnw  yn golygu bytholwyrdd felly roedd yn amhosib chwilio am yr enw mewn unrhyw iaith arall. Dechreuais i gario brigyn o gwmpas gyda fi, a dros y Sul fe ddywedodd cymdoges taw ‘salgar‘ oedd ei henw hi arni.
Y tro yma fe lwyddais i gael hyd i’r cyfieithiad: ligustrum vulgare yw hi. Ie, yswydden, neu prifet fel y bydd y rhan fwyaf yn ei hadnabod. Ond yswydden Ewrop, sydd yn tyfu’n wyllt, nid yr un Siapaneaidd sydd yn amgylchynnu cymaint o erddi yng Nghymru.
Mae’n tyfu’n araf iawn, mewn perthi gan fwyaf, a’r pren melynllyd yn cael ei ddefnyddio at wneud ffyn. Braf cael gwybod, onid yw e?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: