Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 31, 2010

Ar Lan y Môr mae’r Ras yn Cwpla

Wythnos i heddiw fe fydd cannoedd o filoedd o bobol yn tyrru i’r ardal ar gyfer y ras fawr – ras ceufadau o Arriondas i Ribadesella. Mae’r ‘descenso del Sella’ wedi cael ei gynnal ers 1929, ac o’i ddechrau fel rhywbeth i ychydig o ffyddloniaid a myfyrwyr prifysgol ganol haf mae wedi tyfu yn un o ddigwyddiadau mwya’r flwyddyn yn yr ardal fach hon (poblogaeth y ddwy dref at ei gilydd: llai na 15,000).
Dim ond 6 wythnos yn ôl yr oedd canol tref Arriondas o dan 2 fedr o ddŵr brwnt a’r afon yn Ribadesella’n llawn coed a phethau oedd wedi eu sgubo i lawr gan y llifogydd. Mae’r gwaith o lanhau’n dal i fynd yn ei flaen: yr wythnos nesaf bydd yn rhaid cau’r bont yn Ribadesella dros nos er mwyn glanhau’r sbwriel sydd ynghlwm wrth ei phileri, ac yn Arriondas mae ôl y difrod i’w weld o hyd.

  Doedd y goeden yna ddim yn tyfu yn y fan a’r lle – wedi ei gadael yno pan gwympodd lefel y dŵr. O’r bont yn y cefndir y mae’r ras yn dechrau.

Mae pob un yn gorfod aros ar y lan gyda’i ganŵ, yn y drefn y maen nhw wedi ei dderbyn mewn loteri ddeuddydd ynghynt. Llynedd roedd digonedd o ddŵr yn yr afon ond eleni mae’n debyg y bydd hi’n stori arall.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: