Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 1, 2010

O Dan y Môr mae’r Rhain yn Cuddio

Dyw’r rhif 200 ddim mor boddhaol a’r rhif 100, ond mae’n garreg filltir fach arall ym mywyd y blog yma. Cwpwl o hanesion bach hafaidd heddiw: (Gan fod mis gwyliau swyddogol Sbaen newydd ddechrau).
Mae pobl wedi cael eu gwahardd rhag fynd i fewn i’r môr y penwythnos yma oherwydd y chwysigod môr (caravelas portuguesas), yr hen bethau hyll porffor yna sy’n pigo fel y diawl. Naw o draethau sydd wedi cael eu heffeithio, rhai i’r dwyrain ohonom ni ac eraill i’r gorllewin. Traethau sydd ag achubwyr yw’r rhain i gyd, rhywbeth sydd ddim yn wir am y Guadamia. Ond pan fues i yno brynhawn ddoe â’r llanw ar drai doedd na ddim un i’w gweld.
Neithiwr buom ni’n bwyta rhai o greaduriaid rhyfedd eraill y Cantábrico. Criw o gyfeillion wedi dod at ei gilydd i brynu 20 kilo o wythdroediaid (pulpo), a digon o seidr. Cawsom ni brofi pulpo gyda thato, pulpo wed’i wneud ar y ‘plancha‘ ond yn bennaf oll imi, pulpo mariscado, h.y. mewn hylif gyda llawer o bethau bwyd-moraidd eraill – darnau bach o gimwch, cregyn glas a chregyn bylchog. Wnaeth dim byd barhau’n hir.


Ymatebion

  1. Hola, Cath:Soy Carmen Montalbán.El pulpo mariscado tiene una pinta exquisita; lástima que yo marché de Asturias, precisamente, la víspera de que lo preparaseis.Para ponete en contacto conmigo (y, así, poder enviarte yo las fotos prometidas), visita mi página web http://www.carmenmontalban.net y haz clic en la @ de la página de inicio, bajo mi fotografía.Mil abrazos.

  2. Gracias Carmen: hoy llueve entonces tendré un momentín para visitar tu página por la tarde.

  3. Newydd gyrraedd yn ol o Barago, ger Potes. Lle arbennig iawn. Roedd Gwyl Pulpo yn y dyffryn, ond yn ystod yr wythnos flaenorol, ar yr arfordir ger Santander oedd ein cyfnod prysuraf o ran arbrofi efo bwydydd mor diarth. Cawsom gyfle yn y Picos i fwynhau'r seidr, ac wedi cario ambell botel adra'n ogystal! Roedd y wraig wedi gwirioni cymaint efo'r nionod coch mawr, mi brynodd hi raff i ddod adre efo ni. Swfeniar od iawn o'n cyfnod yng Nghantabria!Doeddet ti ddim yn gor-ddweud ynglyn a'r parcio yn Poncebos! Ond roedd y funicular yn gampwaith, Bulnes yn ddifyr tu hwnt, a'r daith i lawr yn werth pob strach wrth barcio. Ceunant trawiadol iawn.

  4. (Gweithio'n ôl drwy'r cofnodion) – rwy'n falch iawn eich bod wedi cael hwyl yn y Picos ac wedi mynd i Bulnes er gwaetha'r dyrfa. Mae'n well fyth ym mis Mai os cyh chi'n gallu teithio bryd hynny.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: