Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 4, 2010

Canna – nid yr Ynys, ond y Blodyn

Mae’r canna wrth y gât yn ei flodau. Lili canna fydd pobl yn ei alw, ond nid lili mohono. Mae’n perthyn i’r un teulu â’r sinsir, ac roedd y planhigyn hwn yma pan brynsom ni’r tŷ.

Mae’r planhigyn tua 1 metr o uchder, er bod yr un sydd wedi tyfu yn y domen gompost llawer yn uwch – yn tynnu am 3 metr.
Mae’n marw nôl yn ystod y gaeaf, ac eleni roeddwn i’n meddwl ei fod wedi mynd am byth.
Ond unwaith cawsom ni dipyn o wres daeth e nôl fel y boi.

Mae’r hadlestri’r un mor brydferth â’r blodau; yn dechrau fel hyn ac yna’n mynd yn goch tywyll ac yn teimlo fel melfed. Rwyf i wedi rhoi hadau i gyfeillion sy’n byw yng Nghymru – rhai wedi methu’n llwyr, ond mewn llefydd eraill (ychydig yn dwymach, neu allan o’r gwynt) maen nhw wedi egino a thyfu’n iawn. Dyw’r blodau ddim yr un mor goch ond mae’n dal yn blanhigyn trawiadol.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: