Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 19, 2010

Cornel y Cewri

Reit, rwy’n gwybod lle dwi eisie mynd y tro nesa bydd hi’n bwrw glaw/bydd gyda ni bobl yn aros!
Arddangosfa newydd – amgueddfa newydd â dweud y gwir – yn Luarca yng ngorllewin Asturias sydd yn gartref i ‘calamares gigantes’. (Scwid anferth).
Dimd ond yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dechrau astudio’r creaduriaid yma o ddifri; yn barod mae ymchwilwyr Ecomarg wedi dod o hyd i ddwy rywogaeth hollol newydd yn ardal ‘El Cachucho’ – hafn dwfn a mynydd o dan y môr ychydig i’r gogledd o Asturias. Ac o bryd i’w gilydd mae pysgotwyr yn dal un – yn farw – yn eu rhwydi. Rhai o’r rhain sydd yn cael eu harddangos yn Luarca, ar ôl cyfnod hir o ddysgu sut i’w cadw nhw heb bydru. Mae’r mwyaf 14m o hyd.
Unwaith, tua blwyddyn yn ôl, fe ddaeth un i’r wyneb yn fyw, yn agos iawn i’r arfordir, ac fe lwyddodd rhywun mewn kayak dynnu llun y llygad. Does na ddim sôn bod y llun yma wedi’i gyhoeddi, ond wrth gwrs mae ‘na fideo ar youtube sy’n dangos un ohonyn nhw’n ymosod ar gamera tanfor.
Rheswm arall i fod yn falch nad wyt ti ddim yn bysgodyn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: