Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 23, 2010

Camddealltwriaeth Gostus

Mae’r hen ddadl ynglŷn â chodi tâl am achub bywyd yn y mynyddoedd wedi ail-agor yn y Picos de Europa ar ôl i’r timau achub fynd i chwilio am ŵr o Gijon oedd yn cerdded uwchlaw’r llynnoedd, yn ardal Vegarredonda a’r Mirador de Ordiales.

el Refugio de Vegarredonda

 Mae’n daith diwrnod – 7 neu 8 awr weden i – i fynd i’r Mirador ac yn ôl, ac fe benderfynodd aros dros nos yn y cwt (sy’n gwneud bwyd amser cinio hefyd, gyda llaw). Gadawodd neges i’r teulu, a bant ag e i’r gwely am noson dda o gwsg. 
Ond fe fethodd y teulu â deall ei neges, a chael ar ddeall ei fod ar goll ar y mynydd. Am 1100 y nos, dyma nhw’n galw’r Gwasanaethau Brys.  Doedd yr hofrennydd ddim yn gallu hedfan o achos y niwl, ond bu tîm o bobl yn chwilio amdano drwy’r nos. Yn y diwedd fe gwrddon nhw ag ef wrth iddo gyrraedd yn ôl i’w gar, heb yn wybod ei fod e wedi bod yn achos chwilio mawr.
Ac er nad oedd y dyn ei hun yn gyfrifol am y camgymeriad, mae’r cwestiwn o godi tal yn dipyn o bwnc llosg yma.
Mae’r ddwy ochr i’r ddadl yn mynd fel hyn:
o blaid codi tâl: mae mwy a mwy o bobl yn mentro i’r mynydd yn ddi-brofiad ac yn ddi-yswiriant. Pam ddylwn ni dalu am eu ffolineb nhw?
yn erbyn: mae’r timau achub (yn Asturias) yn cael arian o’n trethi ni gyd (er bod gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rhan). Maen nhw’n gwneud gwaith pwysig e.e. yn achub pobl o lifogydd neu ddamweiniau eraill, nid dim ond ar y mynydd.  Addysgu’r cerddwyr gleision sydd eisiau, nid dweud wrthyn nhw am gadw draw.

Advertisements

Responses

  1. El malentendido tiene gracia. Lo he leído con una sonrisa en la cara. Aunque no hiciera falta, me alegro de que hayan buscado al montañero. Humana y moralmente, en caso de duda (y, más aún si no la hay), es preciso hacerlo. Mis respetos para el equipo de rescate… y para el aventurero.

  2. … el aventurero ambiguo.

  3. en este caso 'ambiguo' querría decir 'por casualidad'? P.e. 'El Turista Accidental' de Anne Tyler?No obstante, es un buen titulo.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: