Mae’r haf yma wedi bod yn dda. Y tywydd yn dwymach nag arfer, a llai o law. Yr ardd yn haws ei thrin bob blwyddyn. Amser da gyda chyfeillion o Gymru. Cyfeillgarwch newydd yn datblygu o gwmpas y pentref.
Sy’n hala fi i feddwl am hapusrwydd. Beth yw’r elfennau angenrheidiol? Ydy’n bosib sylweddoli yn y foment a’r lle dy fod yn hapus? Ydyn ni’n gwastraffu gormod o amser ar yr ymdrech i fod yn hapus?
Yr elfennau i ddechrau. Arian. Mae arian yn gymorth mawr – nid bod eisie bod yn gyfoethog i fod yn hapus, ond bod digon o arian i osgoi poeni am rywle i fyw a rhywbeth i fwydo’r teulu yn hanfodol. Mae’r cyfanswm ‘iawn’ o arian yn golygu lot llai o boen meddwl.
Ac nid rhywbeth sy’n perthnasol i’r unigolyn yn uniyw hwn: mae sefyllfa economaidd iach yn y gymdeithas yr wyt yn rhan ohoni, yn rhoi’r cyfle iti gael swydd sy’n talu’r arian ‘iawn’ heb fod yn beryg bywyd nac yn sarhad arnat ti dy hun.
A faint yw’r arian ‘iawn’ yma? Mae’n ddigon hawdd cael mesur ar faint fyddai’r isafswm derbyniol. I ni sy’n byw yng ngwledydd datblygedig y gorllewin, nid jyst digon i’n cadw ni rhag y Wyrcws a rhoi sgidie am ein traed. Mae eisie digon i fod yn rhan o’r gymdeithas, i allu defnyddio’r pethau a’r cyfryngau sy’n datblygu o’n hamgylch. Mae eisie mwy o ‘stwff’ yn awr; ewn ni ddim yn ôl at ddyddiau golchi dillad yn yr afon, mynd i’r farchnad unwaith yr wythnos, rhannu un ffôn ar waelod y stâr: heb sôn am fyw heb y rhyngrwyd.
Faint sy’n ormod, te? Dechrau meddwl am hyn yr wyf i, ond rhywbeth fel: os wyt ti’n gallu mynd i siopa a phrynu pethau heb fecso am y pris. Neu: os nad wyt ti’n gwybod faint o arian (incwm a chynilion) sydd gyda ti. Neu ar y llaw arall: os wyt ti’n dechrau meddwl drwy’r amser am dy arian a chymaint mwy sydd gen ti na gan bobl eraill.
Rwyf i am roi hoe fach i’r hen ymenydd yn awr, ond bydda’i’n dod yn ôl at hwn.
Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 25, 2010
Mor Llawen a’r Gog
Cofnodwyd yn arian, haf, hapusrwydd
Categorïau
- #pethaubychain
- adar
- addysg
- amaeth
- amgylchedd
- arian
- arth
- Asturias
- Basg
- blodau
- blog
- bwyd
- Catalunya
- cerdded
- chwyldro
- coginio
- cymdeithas
- Cymru
- cynllunio
- dawns
- defaid
- diweithdra
- dur
- dŵr-twym
- economi
- encina
- Enol
- enw
- enwau
- enwau Cymraeg
- eog
- ETA
- etholiad
- Ewrop
- FEVE
- ffa
- ffair
- ffermwyr
- ffilm
- ffos
- ffrwythau
- ffurfiau
- ffyrdd
- fiesta
- Franco
- gaeaf
- Galicia
- garddio
- Garzón
- gazpacho
- geiriau
- gellyg
- Gilliam
- Glan Clwyd
- glanhau
- glaw
- glo
- glowyr
- gorymdaith
- Guadamia
- guaje
- gwair
- gwaith
- gwanwyn
- gwarchae
- gwartheg
- gwas
- gwastraff
- gwin
- gwisg
- gwleidyddiaeth
- gwrthdystio
- gwyliau
- gŵyl
- hacio
- haf
- hanes
- hapusrwydd
- haul
- hedfan
- hela
- hen bobl
- hinsawdd
- hofrennydd
- hunan-lywodraeth
- iaith
- iechyd
- ieuenctid
- indianos
- Irac
- karst
- Las Medulas
- Lastres
- lemwn
- llaeth
- llifogydd
- llong
- llosgi
- lluniau
- llwybr
- llyfr
- llynnoedd
- llys
- llywodraeth leol
- machlud
- macsu
- mafon
- marchnad
- môr
- Melilla
- merched
- mimosa
- morfil
- mwyngloddio
- myfyrwyr
- myn
- mynydd
- mynyddoedd
- narcissus
- natur
- nofio
- nos
- Nueva
- ogof
- olew
- orennau
- paneli-haul
- parc
- pasg
- Patagonia
- Pelayo
- peldroed
- pensiynwyr
- pentref
- perlysiau
- persli
- perthynas
- Picos
- picos de europa
- planhigyn
- plant ysgol
- poblogaeth
- polje
- pont
- pori
- protest
- pupur
- pwmpen
- pysgod
- pysgota
- pysgota. percebes
- pysgotwyr
- Quijote
- ras
- rhedeg
- rheilffordd
- Rhufeinig
- rhyfel
- Ribadesella
- rysait
- saer
- Santiago
- sêr
- Sbaen
- Scarlets
- seidr
- Sella
- siopa
- storio
- streic
- swyddi
- tai
- tai gwydr
- tapas
- tato
- tân
- tegeirian
- teirw
- teithio
- teledu digidol
- Tito Bustillo
- tomatos
- traeth
- trafnidiaeth
- trefi
- treftadaeth
- tren
- triniaeth
- tristwch
- troseddau
- turlach
- twristiaeth
- tyfiant
- tywydd
- Uncategorized
- undebau
- Urriellu
- Villa
- wynwns
- xiriga
- y Forwyn Fair
- ymddeol
- ymfudo
- ymgyrch
- ymwelwyr
- ynni-solar
- yr hafod
- ŵyn
Gadael Ymateb