Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 27, 2010

Adennydd Newydd Sydd…

…uwch yr hen fynyddoedd hyn.
Mae ceisio dod yn ôl ag anifeiliaid i rywle lle mae’r boblogaeth naturiol wedi diflannu yn waith hir a chaled. Felly mae wedi bod yn y Picos de Europa gyda’r quebrantahuesos, y fwltwr barfog, neu’n llythrennol y malwr esgyrn. Dydyn nhw ddim wedi byw yn y Picos ers hanner canrif a mwy, er bod rhai yn dal i ymweld o’u cartref yn y Pirineos. Yn hedfan 300km i chwilio am fwyd!
Bu gobaith y byddai gwpwl o’r rheiny’n perderfynu ymsefydlu yma yn Asturias, ond yn awr mae’r grŵp sydd am hyrwyddo cadwraeth yr adar prin yma wedi mynd ati’n uniongyrchol i ail-sefydlu poblogaeth. Llai na deufis yn ôl fe ryddhawyd dau gyw – dwy â dweud y gwir oherwydd benywaidd ydynt. I ddechrau roedd pwped pren yn eu bwydo gyda chig ac esgyrn, ond yn barod maen nhw wedi dechrau hedfan ac wedi dysgu dod o hyd i gyrff anifeiliaid. Y gwirfoddolwyr sy’n casglu defaid meirw oddi wrth y bugeiliad ac yn dewid lle i roi nhw fel bod Leoncia a Deva yn debyg o’u cael nhw. 
Hyd yn hyn, popeth yn iawn. Mae ambell i eryr a chudyll coch wedi ymddwyn yn ymosodol tuag atyn nhw, ond maen nhw wedi’u hosgoi a dianc. Ac mae eu perthynas gyda’r adar eraill sy’n bwyta celanedd – mae na ddau fath o fwltwr (dipyn yn llai eu maint) yn y Picos wedi bod yn dda. Wedi’r cyfan mae’r newydd-ddyfodiaid yn bwyta esgyrn, a’r lleill yn cymryd y cig.
Ond. Mae llond gwefan o naturiaethwyr a grwpiau eraill o Asturias yn gwrthwynebu’n ffyrnig. Iddyn nhw, y peth pwysig yw diogelu’r anifeiliaid (a phlanhigion) prin sydd yma’n barod, cyn feddwl am ail-gyflwyno aderyn o rywle arall. Dyfodol y blaidd, y capercaillie (tetrao urogallus cantabricus – rhywun yn gwybod beth fyddai’r enw Cymraeg?) ac yn enwedig yr arth, sy’n eu poeni. Maen nhw’n rhestru nifer o wallau technegol y maen nhw’n eu gweld yn y cynllun ail-gyflwyno, yn bennaf efallai y ffaith bod ffermwyr yn dal i osod gwenwyn ar y mynyddoedd er mwyn lladd bleiddiaid. Mor hawdd fyddai hi i Leoncia neu Deva fwyta un o’r cyrff hynny.
Ond yn y bôn maen nhw’n gwrthwynebu ar sail egwyddor: y bydd yr amgylchedd yn well o geisio cadw a diogelu beth sydd yna o hyd, yn hytrach na cheisio adfer rhywbeth o’r gorffennol.   
Llun i orffen. Heb yr un aderyn.

Advertisements

Responses

  1. Grugiar goed Sbaen?

  2. Da iawn! diolch Wilias


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: