Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 1, 2010

O’r Ardd, ddechrau Medi

Mae ffrwythau a llysiau i’w casglu bob dydd yr amser yma o’r flwyddyn. Tomatos mewn salad neu mewn gazpacho neu wedi’u rhostio – neu wedi’u rhoi i gymdoges. Mafon ar eu pennau’u hunain, neu gyda yogur neu hufen iâ: does dim digon i wneud jam, ond gormod i’w bwyta bob dydd hyd yn oed gyda 4 o bobl yn y tŷ.
Ciwc a phupur a phwmpenni o wahanol fathau (rhyfedd nad oes gair Cymraeg am courgette/squash, ynte?).

Pwmpen o ynys Sisili yw hon sydd wedi dewis dringo i’r ysgawen. ‘Serpiente’ (y neidr) yw ei enw.
Cyfaill sy’n dod o’r ynys yn dweud y medrwch
chi naill ai ei fwyta fel courgette ifanc
neu fel pwmpen aeddfed.

Mae un gellygen wedi rhoi hynny o ellyg sydd ganddi eleni – tua 5kg, ond mae’r lleill ar ei hôl hi. Ambell i gwins wedi cwympo, ond dydyn nhw ddim yn aeddfed eto.
Pan es i’r farchnad y bore ma na gyd oedd rhaid prynu yn y stondin llysiau oedd orennau, bananas ac afocados. A madarch – mae wedi bod mor sych, dwi heb weld yr un eto.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: