Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 9, 2010

Dyfodol Ribadesella

Yng nghanol prysurdeb a miri dathlu Gŵyl Asturias yn eu tref, mae cannoedd o drigolion Ribadesella (o’r 6000 sy’n byw yma’n barhaol) wedi cymryd awr i fynd i ddarllen y Cynllun Fframwaith newydd sydd yn cael ei baratoi. Mae’n dangos newidiadau mawr o’r hen gynllun, gyda llawer yn llai o dai newydd, a phwyslais ar ddatblygu parc diwydiant wrth y draffordd.

Felly er bod yno le i’r hen ddiwydiannau fel y cychod pysgota, ac wrth gwrs y twristiaeth sy’n cynnal y dref yn ystod yr haf, yr hyn y mae’r cyngor am ei weld yw mwy o bobl yn byw yma drwy’r flwyddyn, a mwy o waith yn y diwydiannau newydd ‘glân’ , electroneg a chyfrifiaduron.
Roedd y rhan fwyaf aeth i weld y Cynllun yn bobl o’r pentrefi, lle bydd nifer helaeth o gaeau yn awr yn ‘edificable’ h.y. y gellir adeiladu arnynt. Gyda’r farchnad tai fel y mae hi, dydy hwn ddim yn newyddion da i’r rhain fydd yn gorfod talu mwy yn eu trethu am ddarn o dir sydd wedi bod yn eu meddiant erioed. Ond efallai fod pethau’n dechrau troi: yn y tŷ drws nesaf, sydd bron yn adfail ac a brynwyd fis neu ddau cyn yr argyfwng economaidd, mae dynion yn gweithio heddiw yn symud pridd i wneud mynedfa newydd cyn ail-wneud y tŷ ar gyfer ei werthu.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: