Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 18, 2010

Cinio Hydref

Ffrwyth ein llafur: cinio hyfryd gyda chyfeillion.
I ddechrau, hummus wedi’i wneud gyda ffa gwyn, gyda pherlysiau o’r ardd. (Unrhyw un yn gwybod beth yw cerfeuil/chervil yn Gymraeg?)
Wedyn, haggis. Wel. roedd eu mab nhw newydd dreulio sbel yng Nghaeredin.
Yna, llysiau wedi’u rhostio: wynwns, pwmpen Sisili (y neidr). berenjena (aubergine). betysen, pupur glas, tomato a garlleg. Mae’r rhain i gyd eisie amser gwahanol i’w coginio’n dda – mwy neu lai yn y drefn yna ond gwell dechrau gyda’r fetysen. Ychydig o gnau pinwydd wedi’u tostio mewn ffrimpan sych a dyna chi.
Ac i orffen: teisen foron, hufen gwsberis a sorbe mafon.
Gwin o’r Bierzo.
Y glaw wedi peidio,  y prynhawn yn hen ddigon twym i eistedd ar y teras a chloncan am oriau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: