Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 20, 2010

Mae’r Traeth yn Wag

Cerdded draw i’r pentref nesaf; pasio’r bar ac i lawr y lôn tuag at y traeth. Rownd y gornel olaf: dim ceir!
Cyrraedd y llwybr: neb ar y traeth chwaith!

Dim ond ychydig o wymon a fi. Ryw hanner awr cyn pen llanw. Hanner awr o’r pleser mwyaf yn nofio tua’r Iwerydd ac yn ôl. Yr haul yn fflachio ar wyneb y dŵr, y tonnau bychain yn codi ac yn disgyn, yr awel yn y coed uwchben. Yn od iawn, roedd pŵer yn y môr, pŵer oedd yn fy nhynnu i a’m cario i. Doedd hi ddim fel bod mewn pwll-nofio, ond doedd na ddim tonnau mawr chwaith.
A dyna fel y bydd hi nawr, y traeth yn wag o hyn tan y Pasg, onibai am benwythnos braf iawn.  Dyw’r môr ddim yn dwym, cofia, ond doedd dim eisie dewrder anhygoel i fynd i mewn.
Maen nhw’n dweud ffor hyn bod ymdrochi yn y môr saith gwaith ym mis Medi yn dy gadw rhag annwyd drwy’r gaeaf. Cewch chi wybod cyn Pasg os yw hynny wedi bod yn wir imi.

Advertisements

Responses

  1. Con tu poético artículo me has dado el paseo hacia el mar que (yo que vivo lejos de él) llevaba ya días buscando, Kati. Muchas gracias. Es relajante. Es solitario. Es bellísimo. Y Guadamía como siempre: tan guapa…

  2. Gracias Carmen, me alegro de tu comentario. La magia continua.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: