Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 5, 2010

Cwsg, cwsg…

Rwy’n siŵr y bydd mamau – a thadau – ymhobman yn gallu cydymdeimlo a deall canlyniad arolwg sydd newydd ei gyhoeddi ar eirth y Cordillera Cantábrica. Dros gyfnod o 10 mlynedd, bu tîm o Brifysgol Oviedo yn astudio’r anifeiliaid drwy’r gaeaf. Bu’n rhaid dringo i ardaloedd yr ogofau neu lochesi eraill yr oedd yr eirth wedi dewis ar gyfer eu cwsg gaeafol. Mewn llawer i fan, aros a wnaethant, yn oer ar lethrau dan eira, a gweld dim.

Ond pe bai mam arth a’i chenawon o’r flwyddyn gynt yn byw yn yr ogof, yn aml y gellid dilyn trywydd eu hymweliadau â’r byd y tu allan i’r lloches. Doedd y fam gyda phlant o dan yr unto ddim yn cael noson iawn o gwsg! I fod yn blaen, roedd yr eirth yma’n dal i fwyta ac i gachu drwy gyfnod yr hirlwm, felly yn wyddonol gywir doedden nhw ddim mewn gaeafgwsg.

Ac nid rhywbeth diweddar yn ymwneud â newid hinsawdd yw e chwaith. Mae awduron yr arolwg yn dyfynnu o lyfr a sgrifennwyd yn y XIVeg ganrif am y mynyddoedd hyn a’u thrigolion. Mae’r llyfr hwnnw’n cofnodi’r union un fath o fywyd gaeafol gan famau eirth a’u chenawon. Mae’r eirth eraill: y gwrywod, a’r fenywod heb genawon neu ar fin geni, i gyd yn cysgu’n drwm nes bydd y gwanwyn wedi dod.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: