Anodd yw gor-bwysleisio lle’r Rhyfel 1936-1939 ym mywyd Sbaen. Nid yn unig oherwydd y ffordd y datblygodd y wlad o dan ac ar ôl unbeniaeth Franco ar ddiwedd y rhyfel, ond am y pethau na ddatblygodd, na newidiodd. Tra roedd pawb yn canolbwyntio ar symud ymlaen i ddemocratiaeth o ganol y 70au ymlaen, roedd miloedd gydag anaf corfforol parhaol, miloedd yn dal heb yrfa oherwydd eu rhan ar yr ochr a gollodd, miloedd eraill heb wybod beth ddigwyddodd i aelodau o’r teulu a chyfeillion.
Ychydig i’r gogledd o Madrid mae’r Valle de los Caidos (Dyffryn y Meirw). Yma y claddwyd dros 40,000 o bobol, y rhan fwyaf llethol o ochr y Falange (anodd derbyn yr enw ‘cenedlaetholwyr’ arnyn nhw), gafodd eu lladd yn ystod y rhyfel. Ac yma hefyd y mae bedd yr Unben ei hun, Francisco Franco. Ond heddiw yn y papur El Pais ymddengys erthygl yn awgrymu y dylid symud gweddillion Franco i’r fynwent lle mae bedd ei wraig, yn un o faestrefi Madrid. Y syniad yw ei wahanu fe o’r bobl eraill yr erys eu cyrff yn Nyffryn y Meirw, fel na fydd y casineb tuag ato fe yn effeithio ar y penderfyniad ar beth i’w wneud gyda’r fynwent yn gyffredinol.
Mae’r lle ei hunan, sy’n gofeb genedlaethol, ar gau ers mis Ebrill eleni: dywedir bod angen gwaith cynnal a chadw; mae amryw ar ochr dde’r eglwys Gatholig wedi awgrymu bod diben gwleidyddol i’r cau am fod cymaint o bobl yn ymweld â’r fynwent. Ond fel y dywedais i ar y dechrau, mae’n anodd gor-bwysleisio effaith y rhyfel.
Gadael Ymateb