Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 17, 2010

Marw yn y Môr

Dau bysgotwr wedi marw yn nyfroedd arfordir de-orllewin Galicia wrth bysgota tanfor.

Wel, siŵr iawn eu bod nhw’n pysgota tanfor, meddech chi, dyna lle mae’r pysgod yn byw. Ond na, nhw eu hunain oedd ar eu ffordd i ddeifio o dan y dŵr gyda phicell i chwilio am bysgod. Fe drôdd eu cwch-cyflym wyneb i waered rywbryd cyn hanner nos neithiwr yn y Ria de Muros i’r gogledd o Pontevedra.

Doeddwn i erioed wedi clywed sôn am y math yma o bysgota, heblaw mewn cymdeithasau cyntefig.  Ond mae’n debyg ei fod yn mynd yn boblogaidd nid yn unig yn Sbaen ond yng ngwledydd Prydain hefyd. Yn Sbaen mae ‘na waharddiad ar bysgota tanfor yn ystod y nos, ond yn ôl beth rwyf i wedi darllen heddiw ar wefannau eraill does ‘na ddim byd tebyg ym Mhrydain. Amcan y gwaharddiad yn Sbaen yw a) diogelu’r pysgotwyr, a b) diogelu’r pysgod, sydd yn symud tuag at yr arfordir gyda’r nos.  (Dyna paham mae cymaint o bysgotwyr yn eistedd ar y clogwyni drwy’r nos gyda’u gwiail yn y môr: mae hynny’n gyfreithlon).

Mae picell y pysgotwr tanfor wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn ‘ddryll-bicell’  o ryw 75cm o hyd sy’n gallu costio £100. A hynny cyn dechrau cyfri pris y wisg, y pwysau, y gyllell ayyb. Ond efallai ei fod yn werth yr arian os ydych yn dal digon o ddraenogiaid môr, pysgod gwyn neu dorbwtiaid. A rwy’n siŵr bod rhai ohonyn nhw’n mynd am y profiad o nofio gyda’r pysgod, a ddim yn becso llawer os na fyddan nhw’n dal yr un.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: