Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 18, 2010

Byw yn yr Afon

Ar ganol argyfwng economaidd, pa gynnyrch newydd fyddech chi’n ei ddewis ar gyfer dechrau busnes? Cafiar? Na?

Ond dyna beth mae cwmni yn Asturias am ei wneud yn afon Piloña. Mae ffermio’r stwrsiwn wedi dod yn fusnes mawr ers i bobl sylweddoli’r difrod oedd yn cael ei wneud i boblogaeth naturiol y pysgodyn yn y Môr Du a’r Caspian, lle roedd y fam-stwrsiwn yn cael ei dal a’i lladd er mwyn casglu’r grawn. Mae’r stwrsiwn fel yr eog yn bwrw grawn mewn afonydd a llynnoedd ond hefyd yn gallu byw yn y môr. Ac wrth gasglu’r grawn mewn fferm dyw’r fam ddim yn cael ei lladd, ond yn mynd ymlaen i fwrw eto am lawer i flwyddyn arall: maen nhw’n gallu cyrraedd rhwng 50-100 mlwydd oed.

Busnes ar gyfer y tymor hir felly. Naill ai fe fyddwn yn dathlu’r blynyddoedd o ddigonedd pan ddychwelant, neu gwerthu’r cwbl i gyfoethocion newydd Asia. Neu efallai, os bydd nifer y ffermydd hyn yn cynyddu ar draws Ewrop, bydd cafiar yn dod yn rhywbeth bob-dydd ar ein platiau?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: