Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 20, 2010

Hwylio’n Ôl

Erbyn i chi ddarllen hyn o gofnod byddwn ni ar ein ffordd yn ôl i Asturias. Hwylio o Portsmouth yn fy hoff long, y Pont Aven, am Santander. Rwyf i wedi edrych ar ragolygon tywydd y cefnfor, ac er na fydd hi ddim – na allai hi byth â bod – mor dawel â’r fordaith a gawsom ni draw, dyw hi ddim yn edrych yn ffôl o gwbl.

Bob tro y byddwn yn mynd i Gymru bydd cyfeillion yn gofyn inni ddod â phethau iddyn nhw: ambell un yn ‘expat’ sydd yn dyheu am ei de, neu’i farmalêd, arbennig, eraill eisiau hadau rhyw lysieuyn sydd ddim yn hawl eu cael yn Asturias. Y gwahaniaeth rhwng cymdeithas drefol a chymdeithas y pentrefi, mae’n debyg. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn cerdded i fewn i arch-farchnad a ddim yn gwybod ble i ddechrau. Cymaint o ddewis nid yw’n dda? Ag aros gyda’r te, ches i ddim amser i’w cyfri ond rwy’n siŵr bod dros hanner cant (mae’n edrych yn fwy mewn geiriau) o wahanol fathau o de yn y siop lle buom ni.

Wir, pwy sydd angen yr holl ddewis yma? (Ac wrth gwrs doedden nhw ddim yn gwerthu’r un yr oeddwn yn chwilio amdano, felly prynais i’r Paned Gymreig). Hynny yw, fe es i drwy’r stoc i gyd, ac wedyn prynu rhywbeth na thriais i erioed o’r blaen.  A fyddwn i’n hapus gydag un math o de yn unig? Na. Ond mae 50 yn ormod.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: