Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 21, 2010

Cyrraedd Adre

A dyma ni wedi cyrraedd yn ôl i’r pentref. Y fordaith yn iawn, y tywydd yma yn Asturias yn dwym (yn enwedig yn yr haul) ac yn heulog. Wedi gadael y ddinas, a’i sŵn a drewdod diesel.

Clogwyni'r Guadamia ffoto:cathasturias

Yn syth mâs i’r ardd i gasglu tomatos (llawer un wedi pydru yn ei habsenoldeb), y mafon, a bwcedaid o gnau Ffrengig o dop y cae. Roedd y gymdoges gyferbyn wedi hel y rhan fwyaf at ei gilydd o flaen y garej; cwympodd y cwbl mewn un noson o storom. Roeddem ni eisoes wedi sylwi wrth yrru heibio i berllannau pobl eraill nad oedd yr un afal yn aros ar y coed.

saffrwm yr hydref ffoto:cathasturias

Blodau newydd yn ymddangos hefyd, a’r hydref wedi dechrau o ddrifri. Tasg nesaf: eistedd i lawr i restru’r holl dasgiau sydd o’n blaenau ni yn yr ardd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: