Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 22, 2010

O’r Ardd – Clirio

Mae fy nghefn a’m coesau yn gwynegu ar ôl prynhawn hir a phrysur yn yr ardd. Wrth ein bod ni awr o flaen amser Cymru, dyw hi ddim yn tywyllu tan ryw saith o’r gloch ar hyn o bryd. Mae eisiau lot o waith ar yr ardd cyn y gaeaf:  clirio’r chwyn sydd wedi ymddangos o rywle (eto!), tynnu’r cennin syfis sydd wedi ymledu dros yr ardd perlysiau, clirio dail y coed cnau Ffrengig a’u dodi ar y pridd rhag yr oerfel, a dechrau meddwl am dorri nôl ar rai o’r llwyni.

Heddiw bues yn tynnu dail marw o’r phormiums. Cyngor am ddim: gwell tynnu na thorri oherwydd cryfder y dail. Maen nhw’n drech nag unrhyw sisiwn. Roedd robin yn fy ngwylio, ond ar ganol y gwaith gwnes i ymyrryd â siesta’r cricsyn mawr gwyrdd yma.

Gobeithio y bydd yn iawn ac na fydd yr un o’r adar wedi ei gymryd e i’w ginio.

O, ac mae angen glanhau’r tŷ gwydr hefyd, tynnu’r planhigion tomatos a chael rhywle i’r gorthyfail (chervil) dros y gaeaf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: