Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 23, 2010

Seidr 1

Diwrnod mawr heddiw: defnyddio’r estujadora am y tro cyntaf. O’r blaen bu’r gŵr yn torri’r afalau ar gyfer y seidr â chyllell ond gyda 60 kilo eleni doedd hynny ddim yn apelio ryw lawer.  Yn gyntaf, rhaid golchi’r afalau a thowlu’r rhai drwg cyn eu rhoi nhw yn y peiriant sy’n eu torri â chyllyll sy’n troi ac yn eu gwasgu dipyn bach hefyd.

cyntaf i'r felin ffoto:cathasturias

Mae’r afalau wedi malu yn cwympo mas o dan y felin, a chymaint oedd ei phŵer roedden nhw’n mynd i bobman – hyd yn oed i ‘ngwallt i.

potsh afalau ffoto:cathasturias

Ac yna i fewn i’r wasg, y llagar. A phrawf ar unwaith fel yr oedd y felin yn rhagori ar y gyllell: y sudd yn dechrau llifo o fewn munudau (h.y. heb wasgu o gwbwl.)

i'r wasg ffoto:cathasturias

Mae disgwyl cael 40 liter o seidr o’r 60 kilo o afalau: ond bydd yn rhaid inni aros tan y Pasg i gael gwybod i sicrwydd. Cofnod nesaf ar seidr pan fyddwn yn dodi’r sudd yn y gasgen.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: