Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 24, 2010

Silffoedd Llawn

Heddiw daeth y tywydd drwg; dyw hi ddim yn ofnadwy o oer, ond yn bwrw’n drwm a niwl trwm ar hyd y mynydd.  Gyda’r tywydd daeth annwyd, ond ‘sdim amser i orwedd yn ein gwlâu: mae’r cynnyrch eto’n galw.

Roeddwn i eisoes wedi agor y ffa borlotti – dim llawer oherwydd ein bod yn tueddu i’w bwyta nhw’n gyfan fel llysiau. Ond mae’r hyn oedd yn weddill erbyn hyn mewn llestr ac wedi cymryd eu lle ar y silff wrth ymyl y fabes a’r haricots.

Wedyn y tomatos; y rhai oedd wedi cael hollt yn eu crwyn ac felly ddim yn edrych yn dda ond yn iawn y tu fewn.  Saws ydyn nhw nawr. Ac yfory pan fydda’i’n teimlo’n well (!) fe wnaf i pizza i ddefnyddio peth ohono.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: