Rhyfedd fel y mae awr neu ddwy o heulwen yn gwneud i rywun deimlo’n well. Yn dal dan annwyd, ond am fentro i’r byd tu fâs i’r tŷ – a hyd yn oed cerdded i lawr i’r traeth.
Mae’r 60 kilo cyntaf o afalau eleni yn y wasg, ac yn cael eu gwasgu dipyn bob diwrnod. Mae bron gymaint i’w trin eto er mwyn llenwi’r gasgen.
Doedd neb ar y traeth pan es ilawr, wrth gwrs. Doedd neb ar yr heol, chwaith, a neb i’w gweld yn y pentref, er bod sŵn dynion yn siarad yn dod o’r bar. Gwynt eithaf ffres o’r gogledd-ddwyrain ar y clogwyni, ond ar y tywod roedd hi fel diwrnod o haf.
Roedd y llanw’n ymlusgo lan dros y tywod; roedd y pwll yma ac adlewyrchiad y clogwyni wedi diflannu erbyn imi adael.
Gadael Ymateb