Tridiau yn y wasg ac eisoes mae 25 liter o sudd afal gyda ni.
Mae’r sudd â digon o sawr arno’n barod, ond pwy a ŵyr ydy hynny’n golygu bydd blas da ar y seidr wedi misoedd yn y gasgen. Ysgwyd eu pennau y mae rhai o’r cymdogion, yn dweud bod y tywydd yn rhy dwym i wneud seidr da ac yn darogan pob math o ddrwg.
A’r gwir yw ein bod yn mwynhau haf bach arall yr wythnos yma. Nid ‘el veranito de San Martin’ (haf bach Martin) : dyw ei ddydd gŵyl ef ddim tan yr 11eg o Dachwedd, ond yn bendant yn ddigon braf i fwyta brecwast a chinio ar y teras. Mae’n oeri’n gyflym wedi’r machlud haul, cofiwch.
Ta beth yw enw’r haf bach, mae’n gyfle gwych i gario mlaen gyda’r gwaith o glirio pethau – torri’n ôl ar yr hortensias, a chasglu’r dail i’w defnyddio ar y gerddi gwag.
Gadael Ymateb