Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 27, 2010

Wrth Aros y Cigydd

I´r farchnad wythnosol yn Ribadesella y bore ‘ma, a’r profiad o siopa  sydd mor wahanol i drip i’r archfarchnad. I’r cigydd yn gyntaf, siop teuluol a redir gan bobl sydd biau’r fferm eu hunain ac yn codi gwartheg a moch. Maen nhw’n prynu cyw i fewn o rywun lleol, ond dydyn nhw ddim yn gwerthu cig oen na chig wedi’i hela o gwbl.

Ham oedd eisiau arna’i. Ham sy’n dod o Trevelez yn Andalucia, lawr yn y de ond nid wrth ymyl y môr: mae’n un o’r trefi uchaf yn Sbaen. Mae’r ham yma’n cael ei sychu yng ngwyntoedd y mynydd ac felly heb fawr o halen. Pan ofynnais amdano, roedd yn rhaid agor un newydd. Cymryd y ffon â bachyn i hôl e i lawr o’r rheilen yn y nenfwd, wedyn ei baratoi ar gyfer sleisio. Ymlaen â’r faneg faelwisg (mae honno’n rhywbeth newydd) i dorri darn oedd tua thrydydd rhan o’r cyfan. Yna torri’r braster o bob ochr: yno i’w gadw rhag sychu’n ormodol mae hwnnw.

Ac yna sleisio.  Erbyn hyn roedd 4 o bobl yn aros ac roeddem ni i gyd yn cael sgwrs fach. Un ohonyn nhw’n gymdoges o’r pentref, ond doeddwn i erioed wedi gweld y lleill o’r blaen. Neb yn mynd yn grac am yr oedi, neb yn edrych ar ei wats. Fe gymrodd e sbel i mi ddod i arfer â’r ffordd yma o siopa, ond rhaid dweud fod yn well gen i’n nawr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: