Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 28, 2010

Anelu’n Uchel

Mae cynllun ar waith i godi oriel newydd i’r Picos de Europa. Museo yw’r gair Sbaeneg, ond nid amgueddfa yn llawn o hen greiriau fydd yr adeilad yma, ond canolfan sy’n ceisio esbonio hanes y mynyddoedd, ie, ond hefyd eu prydferthwch a’u harbenigrwydd. Bydd lle arbennig i ferched sy’n mynydda neu’n byw yn y mynyddoedd, a hefyd oriel ar gyfer llenyddiaeth fynyddig.

Picos de Europa ffoto:cathasturias

Bydd yr oriel yn Liébana, yn nhalaith Cantábria, mewn ardal sy’n cynnwys un o’r prif fylchau sy’n uno arfordir y gogledd a chanoldir Sbaen – ac felly’n borth i gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ac er ei bod hi ar gyrion y Picos, mae’r mynyddoedd yno’n ddigon uchel i roi golygfa fendigedig o’r rhai uchaf i gyd.

Tynnais i’r llun yn ôl ym mis Mai – hyd yn hyn does na ddim eira newydd wedi disgyn gan fod y tywydd yn aros yn braf ond fe ddaw yn ystod y mis nesaf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: