Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 29, 2010

O’r Ardd – Trin y Cynnyrch

Daeth diwedd (dros dro, gobeithio) ar yr haf bach hyfryd gyda gwyntoedd cryfion o’r de a fu’n ein cadw ni ar ddihûn am oriau. Ofni braidd beth fyddai’r sefyllfa erbyn y bore, ond dim ond ychydig o bethau bach wedi eu chwythu o gwmpas, a changhennau wedi cwympo. Mae’n dal yn dwym, ond y glaw wedi cyrraedd jyst mewn pryd i’r pythefnos pan fydd teuluoedd yn ymweld â beddau.

Gwaith tu fewn, heddiw, te. A mynd ati unwaith eto i brosesu cynnyrch yr ardd. Mae hanner y cwins sydd wedi bod yn aros ar y llawr yn y llofft sbâr yn awr yn eistedd mewn bag mwslin yn colli’u sudd yn araf i bowlen fawr. A felna byddan nhw’n aros tan yfory, pan fydda’i’n eu berwi gyda siwgr i wneud jeli. Ond ar y tegan newydd yr wyf i wedi bod yn canolbwyntio heddiw.

Ffigys yn y sychwr ffoto:cathasturias

Anrheg ail-law gan gyfeillion yw’r sychwr yma, sy’n dod yn wreiddiol o Seland Newydd. Mae’n anodd ei weld yn y llun, ond mae sawl llawr sy’n gallu cael eu hychwanegu neu’u tynnu mâs, ac ar hyn o bryd mae’r peiriant bach wrthi’n sychu’r tomatos ‘cherry’ diwethaf a hanner kilo o ffigys.  Rwy’n mynd i adael hwnnw hefyd dros nos i weld sut eith pethau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: