Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 31, 2010

Dilyn yr Ôg

Sbel yn ôl (25ain o Fedi) gwnes i sôn bod swyddog undeb wedi gofyn am ddatblygu’r maes (sori) amaethyddol yn Asturias. Wedi gweld yn y papur heddiw bod yr ymgyrch ar droed – neu o leiaf mae pwyllgor o arbenigwyr wedi cyhoeddi adroddiad yn dweud yr un peth ac yn awgrymu cwpwl o bethau y dylid eu gwneud.

Ond yr hyn oedd yn fwy calonogol na dim oedd yr ymateb gan ddarllenwyr y papurau, gyda llawer ohonyn nhw’n datgan eu bod nhw am ddatblygu busnesau cynhyrchu a marchnata llysiau, dofednod a wyau, cig o dda byw wedi eu codi’n organig, cnau castan, neu fêl.

Mae’r cae yma’n gael ei weithio’n gyson, ond mae’r pâr sy bia fe yn tynnu mlaen mewn oed, a llawer o’r cymdogion wedi rhoi’r gorau iddi ers blynyddoedd gan adael eu tir yn fieri i gyd.  Beth fydd ei angen er mwyn gwireddu breuddwyd yr ymgyrchwyr yw troi’r tir a’r gwybodaeth sydd yma yn rhywbeth â mwy o drefn arno – creu amaethyddiaeth fodern gynaliadwy yn lle’r hen batrwm o ffermydd bychain ymgynhaliol.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: