Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 3, 2010

Dewis Llwybr Anodd

Wrth ddod yn ôl o’r farchnad y bore ‘ma fe welson ni bererin yn troedio tua’r gorllewin, tua Santiago de Compostela.  Syndod, a ninnau yn awr ym mis Tachwedd. Ond mae’n flwyddyn arbennig i ffordd y pererinion – blwyddyn ‘xacobeo’ wedi ei dynodi gan y Pab.

Ac yn ôl y ffigyrau diwethaf, mae wedi bod yn llwyddiant aruthrol. Mae bron i 260,000 o bererinion wedi cyrraedd Santiago, o’i gymharu â 180,00 yn ystod y ‘xacobeo’ ddiwethaf yn 2004. Mae’r rhan fwyaf llethol yn cerdded, ond mae 12% yn cyrraedd ar gefn beic a nifer fach ar gefn ceffyl. Mae hyd yn oed 49 o bobl (hyd yn hyn) wedi gwneud y daith mewn cadair olwyn.

Ar hyd ffordd y Ffrancwyr y bydd y mwyafrif yn cerdded, o’r Pirineos drwy León a’r Bierzo. Dyna lle mae’r hosteli i gyd, hyd yn oed os oes rhaid cerdded ar ochr y ffordd fawr ar brydiau.

Mae hosteli pererinion yr ardal yma, ar ffordd yr arfordir, yn llai mewn nifer ac yn aml ddim mewn cyflwr da – mae’r to wedi dechrau disgyn o’r un sydd yn Ribadesella, a’r un yn Piñeres wedi bod ar gau ers blynyddoedd. Ond mae ‘na gymaint o westyau a pensiones  bach, rwy’n siŵr y bydd y pererin a welson ni’r bore ma wedi cael rhywle i gysgu erbyn heno. Pob hwyl iddo ar ei daith.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: