Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 5, 2010

O’r Ardd – Cadw Perlysiau

Dal i ddysgu am berlysiau yr ydwyf i – sut i’w tyfu nhw, pryd i’w defnyddio (a faint ohonynt), a sut i’w cadw nhw.

Yma yn Asturias mae rhai sy’n tyfu’n dda rownd y flwyddyn – y llawryf, rhosmari a saets. Dim ond cerdded ychydig metrau gyda sisiwn sydd eisiau i’w cael nhw’n ffres. Mae eraill yn tyfu drwy’r flwyddyn ond yn well o lawer yn yr haf: pethau fel teim, oregano a hyd yn oed persli. Mae’r ddau gyntaf yn hawdd eu sychu; rwy’n torri brigau a’u gadael mewn rhidyll blawd mewn lle twym a sych. Ar ôl ychydig wythnosau maen nhw’n barod i gael tynnu’r dail a’u cadw.  Sdim pwynt gwneud hyn gyda phersli achos mae’r dail a’r coesau’n rhy feddal.

Eleni rwyf i wedi arbrofi gyda pherllysiau meddal – y gorthyfail a’r amgwyn (taragon). Fe dorrais i’r dail yn fân iawn, a’u dodi mewn cafn cnapiau iâ. Wedyn arllwys ychydig iawn o ddŵr ar ben bob un – tua llond llwy de.

rhewi perlysiau ffoto:cathasturias

Rwy’n credu y byddan nhw’n iawn yn y rhewgell am gwpwl o fisoedd, os nad tan y gwanwyn pan fydd yr amgwyn o leiaf yn dechrau tyfu eto. Bydd angen hau gorthyfail oherwydd planhigyn blynyddol yw e (o ran casglu’r dail – bydd y planhigyn ei hun yn parhau flwyddyn arall ond bydd y sawr wedi ei golli.)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: