Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 7, 2010

Dyfodol y Pyllau Glo

Aeth pennaeth llywodraeth Asturias i’r dalaith nesaf  i arwyddo datganiad ynglŷn â dyfodol y diwydiant glo ynghŷd â 4 llywydd arall o gymunedau glofaol (cymuned yn yr ystyr Sbaeneg – talaith neu nifer o daleithiau gyda’i llywodraeth ei hun a’i hawdurdod fel arfer yn fwy na sydd gan Gymru).

Maen nhw eisiau gweld rheolau newydd ar gyfer cynhyrchwyr glo yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gnweud yn siŵr bod cwmniau trydan yn prynu glo ‘cartref’ ac felly’n diogelu trefi a phentrefi cymoedd y glo.  Y broblem yma a arweiniodd at wrthdystiadau a chau traffyrdd ryw ddeufis yn ôl: bryd hynny roedd rhai cynhyrchwyr yn gwrthod talu’r glowyr am nad oedden nhw wedi gallu gwerthu’r glo.

A’r hyn y maen nhw am ei sicrhau yw na fydd y drefn newydd yn clymu cymorthdal Ewropeaidd at gynlluniau i gau pyllau. Bydd Sbaen a’r Almaen yn ymladd ar yr un ochr ym mhwyllgorau Brwsel, am fod ganddynt yr un broblem gyda chynhyrchu glo drud.

Sdim amau eu bod yn daer – fe ddwedodd llywydd Castilla y Leon y bydden nhw’n ‘ymladd ag ewinedd a dannedd’ i ennill y cymorth ariannol newydd. Ond o edrych ar y sefyllfa o safbwynt arall, oni ddylen nhw fod yn brwydro i gael datblygiad diwydiannol newydd i’w hardaloedd?

Llai na 10% o drydan Sbaen sy’n dod o losgi glo; chwarter o orsafoedd nwy a stêm, tua’r un faint o ynni niwcliar – a 36% o ffynonellau ‘gwyrdd’ : gwynt, dŵr neu haul.  Tybed nad yn y maes hwnnw y mae diogelu dyfodol cymoedd fel y Sil a’r Nalon?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: