Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 8, 2010

O’r Ardd: Torri Nôl

Rwy’n hala hen gymaint o’r amser sydd gyda fi yn yr ardd yn torri nôl ar bethau ag yn eu hannog nhw i dyfu a dwyn ffrwyth. Efallai nad ‘annog’ yw’r gair iawn yma, achos fydda’i ddim yn siarad â’r planhigion, ond yn ceisio cael y lleoliad gorau iddyn nhw, a’r lloches a’r dŵr sydd ei angen. Ac erbyn meddwl, efallai fy mod i weithiau’n siarad â’r chwyn, y mieri a’r iorwg a’r danadl – ond dim ond i’w diawlo nhw.

Nid torri nôl ar y chwyn yr oeddwn i’r penwythnos yma, ta beth, ond ar y pethau da sy’n tyfu’n ormodol. Fi sy’n penderfynu hynny, wrth gwrs; mae’r planhigion eu hunain yn ymddangos yn hapus ddigon. Ond bydd y coed llawryf, e.e., yn tyfu mor gyflym ac mor dal ag i rwystro pethau eraill rhag datblygu i’w llawn dŵf. Ac roedd y rhosmari, cyn ymweliad y barbwr, yn cysgodi gweddill y perlysiau.

Felly es i ati i dorri 30-40cm o bob rhan o’r llwyn. Doedd dim rhaid imi fecso ynglŷn â’r blodau achos yn Asturias mae’n blodeuo drwy’r flwyddyn. A fan hyn sdim eisiau bod yn ofalus i beidio torri gormod nôl i’r pren chwaith; fe ddaw eto.

Fe gedwais i rai o’r brigau er mwyn y persawr, ond i’r compost yr aeth y gweddill. Ymlaen at y llawryf!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: