Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 9, 2010

Coed yn y Môr

Dim garddio heddiw: mae storm arall wedi cyrraedd, y gwynt yn chwythu’n greulon a’r glaw yn curo’r ddaear yn ddidrugaredd. A hynny i gyd yn cyd-ddigwydd â phenllanw uchel iawn, oherwydd ein bod ni ond ychydig dyddiau wedi’r lleuad newydd.

Canlyniad hyn oll oedd llifogydd – eto – ond y tro yma yn Ribadesella a phentrefi eraill glan môr. Yn lle’r afonydd oedd yn llifo drwy strydoedd trefi fel Arriondas ym mis Mehefin, y tonnau a lwyddodd i gyrraedd prif stryd Ribadesella – dwy stryd i ffwrdd o’r aber. Mae llawer o siopau a thai bwyta wedi cael difrod, ond gan fod y penllanw yn oriau man y bore gafodd neb niwed. Mae’r cyngor wedi cau’r strydoedd y prynhawn yma rhag ofn y bydd y penllanw nesaf yn achosi’r un broblem.

O edrych ar ragolygon y tywydd, maen nhw’n addo diwrnod arall o dymestl a mar arbolada , yn llythrennol ‘môr a choed yn tyfu arno’ , neu a bod yn fanwl ‘môr gyda thonnau o fwy na 6m o uchder’. Hyd yn oed ar fwrdd llong fawr fyddwn i ddim eisie bod ar Fae Vizcaya heddiw. Y dywediad am fôr tawel, gyda llaw yw mar en bonanza. Mae ystyr y gair bonanza, felly, wedi ymestyn o’r ‘tawelwch’ a’r ‘ffyniant’ gwreiddiol i gynnwys ystyr arbennig ‘gwythien dda o fwyn’ neu’r weithred o ddod o hyd i’r fath wythien.

Ac wrth ymchwilio i’r geiriau yna, ces i ddywediad bach net sy’n golygu gwastraffu egni ar rywbeth amhosib arar en el mar h.y. aredig y môr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: