Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 10, 2010

Dial y Scwid Anferth?

Aros gyda difrod llifogydd y môr y bydda’i heddiw. Mae’r gwaetha drosodd, ond mae wedi gadael hôl parhaol a drud i’w gywiro. Dim ond ym mis Awxt eleni yr agorwyd Canolfan y Scwid Anferth ym mhorthladd Luarca yng ngorllewin Asturias. Ym mis Medi buom ni yno gyda chyfeillion ar ddiwrnod hyfryd. Heddiw mae un wal wedi’i dymchwel, y llawr gwaelod wedi ei racso a’r sustemau trydan ac ati wedi eu distrywio.

puerto Luarca ffoto: cathasturias

Y mur llwyd uchel yna ar lan y môr yw mur yr oriel – y mur pellaf oddi wrth y tonnau. Y mur gyferbyn sydd wedi ei chwalu. Does neb eto wedi dweud faint o ddifrod sydd i’r casgliad o scwids anferth a chreaduriaid rhyfedd eraill yn y tanciau lan llofft, ond rwy’n siŵr y bydd pris diogelu’r rheiny yn ychwanegu at gost ail-adeiladu’r cyfan. Mae’n bosib hefyd y bydd yn rhaid edrych am leoliad arall, ymhellach o’r môr a’i donnau cryf.

Fe gollwyd dau o gychod pysgota Luarca hefyd, ar angor yn yr harbwr. Ac mae’r pysgotwyr wedi bod yn barod iawn i ddweud eu bod yn gwybod cyn iddo agor na fyddai’r oriel yn ddiogel, oherwydd ei leoliad reit ar lan mynedfa’r porthladd. Pawb yn dweud hynny wedyn, wrth gwrs: ond rhaid gofyn paham y codwyd yr adeilad mewn man lle na fu adeilad o’r blaen, ac mor agos i’r dŵr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: