Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 12, 2010

Diod yr Astures

Diwrnod arall, dadl arall. Os taw diwrnod y llifogydd a’r gyfrifoldeb amdanyn nhw oedd e ddoe, heddiw mae pawb yn cydsefyll i wrthod a gwrthbrofi datganiad a wnaed gan wefan yn yr Unol Daleithiau taw diod Fasgaidd yw’r seidr. Daeth hyn ar ôl i un o bapurau Llundain (y Guardian) gynnwys nifer o gynhyrchwyr seidr o Euskadi mewn rhestr o’r ‘goreuon’ – heb ddim un o Asturias.

Diod Asturias yw hi! Yn yr ystyr yma, mae’n debyg: ar wahan i ryw un neu ddau o bobl yn ne-orllewin y dalaith sy’n gwneud gwin (a dyw e ddim yn win i’w gymharu â gwinoedd taleithiau cyfagos),  seidr yw’r unig ddiod feddwol sy’n cael ei chynhyrchu yma. A hynny ar raddfa o 40m o litrau’r flwyddyn, o’u cymharu ag 11m o litrau yng Ngwlad y Basg.  A does neb yn gwybod faint sy’n cael ei gynhyrchu yn y pentrefi i’w yfed yno gyda’r cymdogion.

seidr cymydog ffoto:cathasturias

Mae’r daearyddwr Groeg Strabo yn sôn amdano yn Asturias yn y ganrif C.C. (Dim ond 1000 o flynyddoedd wedyn,  yn yr 11eg ganrif O.C. y ceir cyfeiriad ato yn Euskadi).  Mae’n draddodiad byw sy’n uno gwlad a thref; mae pawb â rhywun yn y teulu sy’n gwneud seidr. Mae hefyd yn uno hen ac ifainc; mewn fiesta fe welwch chi werinwyr wedi ymddeol yn cymryd culin yn ogystal â merched ifainc ffasiynol yn cario crêts o seidr i’w hyfed gyda’i chyfeillion.

Beth sydd ei angen yw mwy o gyhoeddusrwydd amdano, mwy o hysbysebu, mwy o allforio. Wedyn ni fydd yr un papur yn anghofio bodolaeth seidr Asturias am fod nhw wedi derbyn lot o wybodaeth gan y Basgwyr a dim byd o fan hyn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: