Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 13, 2010

Cofio’r Prestige

Wyth mlynedd yn ôl – i’r awr – daeth y galwad brys cyntaf o’r llong olew y Prestige, mewn trafferthion oddi ar arfordir Galicia. Cyn diwedd yr wythnos, roedd hi wedi suddo a’i holew trwchus, y chapapote, yn y broses o lygru 2000km o draethau a chreigiau ar hyd gogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc.

Bydd y ffordd y cafodd y Prestige ei thrin yn ystod yr wythnos honno’n destun achos llys enfawr, sydd i fod i agor – o’r diwedd – yn A Coruña ddechrau’r flwyddyn nesaf. Un o’r diffynyddion fydd ydyn oedd bryd hynny’n bennaeth ar y Marina Mercante, adran o wladwriaeth Sbaen sy’n gyfrifol nid yn unig am achub llongau a morwyr mewn perygl, ond hefyd am gadw’r môr, ac felly’r arfordir, yn lân rhag llygredd. Dim ond yr wythnos hon y mae’r Marina Mercante wedi rhoi i’r llys y tâp o’r sgyrsiau a fu rhwng y Prestige a’u swyddogion nhw: mae hyn yn hynod o bwysig am fod gymaint o feirniadu wedi bod ynglŷn â’r llwybr y’i gorchmynnwyd i’r llong ei ddilyn. Fe’i danfonwyd hi bant o’r arfordir, yn bellach fyth i ffwrdd o A Coruña, lle mae ‘na safle, a phwmpiau, a thechnegwyr, i ddelio â phroblemau fel hyn.

Mae’n debyg taw cadw’r llong i ffwrdd o draethau Galicia oedd y bwriad, gan gredu y byddai’n suddo i ddyfnderoedd Môr Iwerydd a’i llwyth gyda hi. Ond torri yn ei hanner wnaeth y Prestige, fel bod yr olew yn dod allan ar wyneb y dŵr ac yn cael ei chwythu’n syth yn ôl i gyfeiriad Galicia.

Y tri diffynydd arall yw’r capten, a dau o’r prif swyddogion sydd wedi diflannu’n gyfangwbl ers y trychineb. Mwy am hyn drwy’r wythnos, ond mae’r wefan yma’n diddorol i bobl sy’n gweld cynllwyn y tu ôl i’r peth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: