Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 14, 2010

Mae’r Gaeaf ar Gyrraedd

Mae’r tywydd yn dal i achosi problemau wrth fod yr hydref yn pasio a’r gaeaf yn dod yn nes. Gwynt a glaw, a thonnau mawr, i lawr ar yr arfordir, ond yn y Picos de Europa mae eira cyntaf y tymor wedi cyrraedd  y copaon, dros 2000m, ac erbyn diwedd y dydd maen nhw’n darogan y bydd wedi dod i lawr hyd at 900m uwch y môr – dim ond ychydig yn uwch na’r pentrefi uchaf: Sotres, Tielve, Bulnes a Carmameña.

Invernales de Texu ffoto:cathasturias

Ysguboriau ar gyfer y da byw a’u bwyd gaeafol yw’r adeiladau yma, ond mae pobl yn byw yn y pentrefi rownd y flwyddyn. Mae pethau llawer yn haws yn awr, wrth gwrs, ond maen nhw’n dal i’w cael yn gaeth yn y tŷ gan yr eira am ddyddiau os nad wythnosau.  Y pethau pwysig, yn awr fel o’r blaen, yw gwres a bwyd. Torri digon o goed ar gyfer y tân a’r ffwrn, cadw cynnyrch yr ardd (fel y ffa) a’r lladd (mochyn, fel arfer) mewn cistiau mawr pren. Roedd yr oerfel yn cadw popeth yn ffres: ers dyfodiad trydan mae’r oergell yn gwneud y gwaith.

Mae pobl yn dweud bod y gaeaf yn dechrau’n hwyrach nag o’r blaen; eu bod nhw hanner can mlynedd yn ôl yn casglu pren ac yn cynnau tân o fis Medi ymlaen, a nawr dim cyn ail hanner mis Hydref. Ond, medden nhw, mae dyfodiad y gwanwyn yn llai dibynadwy: a hyd yn oed os daw hi’n gynnar, yn aml iawn mae un cyfnod oer a stormus ar ôl cyn mis Ebrill. Sdim rhyfedd ein bod ni (sy’n hoff iaen o’r mynyddoedd) wedi dewis byw ar lan y môr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: